Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 6,160, 6,778 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,717.42 ha |
Cyfesurynnau | 51.3906°N 3.3524°W |
Cod SYG | W04000667 |
Cod OS | ST060666 |
Cod post | CF62 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Kanishka Narayan (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Y Rhws (Saesneg: Rhoose). Saif yn ne'r sir ar lan Môr Hafren, 2 filltir i'r gorllewin o'r Barri i'r de-orllewin o Gaerdydd.
Mae'r Rhws yn adnabyddus yn bennaf erbyn heddiw fel lleoliad Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, prif faes awyr Cymru. Mae'r pentref yn datblygu'n gyflym mewn canlyniad.
Hanner milltir i'r de o'r pentref ceir Trwyn y Rhws, pwynt mwyaf deheuol Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[2]